Ymchwil Hanesyddol

Hanes Beca yn eich Cymuned

  • Oedd yna heolydd tyrpeg yn eich ardal?
  • Oes yna dystiolaeth o heolydd tyrpeg fel cerrig milltir?
  • Ymhle roedd y tolldai / tollbyrth ar hyd yr heolydd tyrpeg?
  • Oes yna unrhyw wybodaeth dogfennol ynglyn â’r terfysgoedd ger y clwydi yma mewn llyfrau neu archifau?
  • Ydych chi wedi clywed unrhyw hanesion ynglyn a Therfysgoedd Beca?
  • Oedd yna rhyw ddigwyddiadau Beca mewn mannau heblaw’r tollbyrth yn eich ardal?
  • Oes yna unrhyw wybodaeth ynglyn â’r bobl lleol oedd yn gysylltiedig â’r terfysgoedd?
  • Pa fath o fywyd oedd gan bobl yr ardal bryd hynny?
  • Pwy oedd yn byw yn yr ardal bryd hynny, a beth oedd eu bywoliaeth?
  • Ym mhle’r oedd yr odyn galch oedd yn bwysig yn yr hanes?
  • Oes yna adfeilion neu unrhyw nodweddion materol o dolldai neu dollbyrth yn eich cymuned?
  • Oes gan unrhyw un yn y gymuned rhyw ddogfennaeth o’r amser yma, e.e. llythyron, dyddiaduron neu bapurau newyddion a allai roi gwybodaeth?
  • Oes gan rhywun yn y gymuned rhyw arteffactau o’r amser yna, e.e. dillad?

Sut mae dechrau ymchwilio

  • Gwneud nodiadau, tynnu lluniau, defnyddio camera fideo neu dictaffon.
  • Gofyn cwestiynau, efallai bod rhai teuluoedd wedi byw yn yr ardal am genedlaethau.
  • Edrych ar fapiau degwm, edrych ar fanylion cyfrifiadau.
  • Edrych o amgylch mynwentydd.
  • Edrych ar adeiladau yn yr ardal, gwneud nodiadau o unrhyw ddyddiadau ar yr adeiladau.
  • Nodi sut mae’r ardal wedi newid dros y blynyddoedd.
  • Edrych ar ddefnydd blaenorol yr adeiladau.

Os hoffech drefnu gweithdy hanes fel y medr eich cymdeithas ddarganfod mwy ynglyn ag ymchwilio i hanes lleol, a fyddech mor garedig â gadael i ni wybod.

Cysylltiadau defnyddiol

Noder nad yw Prosiect Bro Beca yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan allanol

Sir Benfro

Swyddfa Cofnodion Sir Benfro
Y Castell
Hwlfordd
SA61 2EF
Ffôn: 01437 763707

Llyfrgell Sir Benfro
Stryd Dew
Hwlfordd
Sir Benfro
SA61 1SU
Ffôn: 01437 775248
Ffacs: 01437 769218

Swyddfa Gofrestru Hwlfordd
Bryn y Twr
Hwlfordd
SA61 1SS
Ffôn: 01437 775176

Amgueddfa maenor Scolton
Spittal
Hwlfordd
Sir Benfro
SA62 5QL
Ffôn: 01437 731328
Ffacs: 01437 731743
Yn Amgueddfa Sirol Sir Benfro, y mae Scolton yn gartref iddi, mae arddangosfa o filoedd o bethau sy'n dangos hanes yr ardal yn y Maenordy, Y Stablau a'r Neuadd Arddangos.

Mae Rhith Amgueddfa Sir Benfro yn defnyddio technoleg gyfoes i ddarlunio gorffennol hanesyddol a diwylliannol y Sir. Bydd y wefan yn caniatáu i bobl o bedwar ban byd ddarganfod ac archwilio gorffennol hanesyddol Sir Benfro gyda chlic ar fotwm.
Gwefan: www.pembrokeshirevirtualmuseum.co.uk

Cyd-fenter rhwng Sir Benfro yng Nghymru a Sir Carlow yn Iwerddon yw’r Cultural X-Change er mwyn creu dwy rith amgueddfa, un yr un ar gyfer y ddwy sir.
Gyda’r prosiect arloesol hwn mae pobl o bedwar ban y byd yn gallu cael gwybodaeth am dreftadaeth a diwylliant Sir Benfro a Carlow, trwy gyfrwng gwefan ddiddorol sy’n rhwydd i’w defnyddio.
Gwefan: www.culturalxchange.net

Amgueddfa Tref Hwlffordd
Ty’r Castell
Hwlfordd
Sir Benfro
SA61 2EF
Ffôn: 01437 763087
Gwefan: www.haverfordwest-town-museum.org.uk

Amgueddfa Arberth
11 Stryd Neuadd
Arberth
Sir Benfro
SA67 7AY
Ffôn: 01834 861719
E-bost: narberthmuseum@yahoo.co.uk
Gwefan : www.narberthmuseum.co.uk

Bwthyn Penrhos (Ty un nos)
Llanycefn
Clunderwen
Sir Benfro
SA66 7XT
Ffôn: 01437 731328
Bydd rhaid i ymwelwyr wneud apwyntiad er mwyn gweld yr amgueddfa.

Amgueddfa Aberdaugleddau
Yr Hen Dy Tollau
Y Dociau
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 3AF
Ffôn: 01646 694496
Ffacs: 01646 699454

Amgueddfa ac OrielGelf Dinbych-y-Pysgod
Bryn y Castell
Dinbych-y-Pysgod
Sir Benfro
SA70 7BP
Ffôn: 01834 842809
Ebost: tenbymuseum@hotmail.com
Gwefan: www.tenbymuseum.org.uk

Sir Gâr

Swyddfa Cofnodion Sir Gaerfyrddin
Parc Myrddin
Waun Dew
Caerfyrddin
SA31 1DS
Ffôn: 01267 228232
Ffacs: 01267 228237
E-bost: archives@carmarthenshire.gov.uk

Llyfrgell Sir Gaerfyrddin
Heol San Pedr
Caerfyrddin
Ffôn: 01267 224830
Ffacs: 01267 221839
E-bost: library@carmarthenshire.gov.uk
Gwefan: http://libraries.carmarthenshire.gov.uk/

Swyddfa Gofrestru Caerfyrddin
Parc Myrddin
Waun Dew
Caerfyrddin
SA31 1DS
Ffôn: 01267 228210

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Abergwili
Caerfyrddin
SA31 2JG
Ffôn: 01267 231691
Ffacs: 01267 223830
E-bost: museums@carmarthenshire.gov.uk

Cymru

Archaeoleg Cambria
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Cyf
Neuadd y Sir
8 Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6AF
Ffôn: 01558 823121
Ffacs: 01558 823133
E-bost: cambria@cambria.org.uk
Gwefan: www.cambria.org.uk
Rydym yn un o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru sy’n helpu i ddiogelu, cofnodi a dehongli pob agwedd o’r tirlun hanesyddol. Mae Archaeoleg Cambria yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy’n dymuno canfod mwy am archaeoleg yr ardal. Allwedd i wybodaeth am dreftadaeth archaeolegol yr ardal yw’r Cofnod o Safleoedd a Henebion (CSH) rhanbarthol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn cynnwys holl gyfnodau y datblygiad dynol, o olion y trigolion dynol cyntaf mewn ogofau i adeiladweithiau amddiffynnol yr Ail Ryfel Byd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn: 01970 632 800
Ffacs: 01970 615709
Gwefan: www.llgc.org.uk
Un o lyfrgelloedd mawrion y byd yw'r Llyfrgell Genedlaethol. Ceir ynddi filoedd o lawysgrifau ac archifau, lluniau a ffotograffau, mapiau, recordiau sain a delweddau symudol. Mae'r cyfan ar gael am ddim - does dim tâl am fynediad - i bawb dros 18 oed.

Amguedda Werin Cymru
Sain Ffagan
Caerdydd
CF5 6XB
Ffôn: 029 2057 3500
Gwefan: www.aocc.ac.uk/www.php/awc/
Prif nod Amgueddfa Werin Cymru yw arddangos a dehongli bywyd a gwaith beunyddiol y Cymry o'r Oesoedd Canol hyd heddiw.
Mae casgliadau'r Amgueddfa'n syrthio i'r categorïau a ganlyn:
Adeiladau hanesyddol, Bywyd corfforaethol, Bywyd cartref a gwisgoedd, Amaethyddiaeth, crefftau a thrafnidiaeth, Bywyd diwylliannol, Archif ffilm, Archif lawysgrifau, Archif ffotograffau, Traddodiadau llafar a chasgliadau'r archifau, Llyfrgell.

Cymru ar y We
Cymru ar y We yw y prif bwynt mynediad ar gyfer unrhywun unrhywle sydd yn dymuno cael mynediad i wybodaeth a gwasanaethau sy'n ymwneud â Chymru.
Gwefan: www.cymruarywe.org

Rhwydwaith Archifau Cymru
Mae gwe-fan Rhwydwaith Archifau Cymru yn cynnwys disgrifiadau safonol am faint, natur a chynnwys casgliadau o ddogfennau sydd ar gadw mewn archifdai, prifysgolion a chorfforaethau eraill yng Nghymru. Ceir hefyd cysylltiadau sy'n arwain at wybodaeth bellach a manylion o ran mynediad i'r archifau. Mynegai i'r ffynonellau sydd yma yn hytrach na ffynhonell ei hun.
Gwefan: www.rhwydwaitharchifaucymru.info


Yr Archifdai Cenedlaethol
Kew
Richmond
Surrey
TW9 4DU
Ffôn: 02 8876 3444
Gwefan: www.nationalarchives.gov.uk
Mae’r Archifdai Cenedlaethol yn cadw cofnodion llywodraeth y DU o Dydd y Farn hyd y presennol.

Learning Curve
Gwefan: www.learningcurve.gov.uk
Adnodd dysgu ar lein rhad ac am ddim yn yr Archifdai Cenedlaethol yw Learning Curve, sy’n dilyn Cwricwlwm Cenedlaethol Hanes o Cyfnod Allweddol 2 i 5.
Ciplun ar Terfysgoedd Rebecca:
www.learningcurve.gov.uk/snapshots/snapshot48/snapshot48_w.htm

GENUKI: Achresi'r DU ac Iwerddon
Casgliad helaeth o wybodaeth achyddol ar gyfer Lloegr, Iwerddon, Yr Alban, Cymru, Ynysodd y Sianel ac Ynys Manaw.
Gwefan: www.genuki.org.uk
Protest y Bobl a Gwleidyddiaeth: Terfysgoedd Rebecca
http://www.genuki.org.uk/big/wal/PeopleProt.html#Rebecca
Nodiadau Rebecca Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin
http://www.genuki.org.uk/big/wal/CMN/CMNAntBeccaNotes.html
Hynafiaethiaeth Rebecca-idd Sir Gaerfyrddin – Llyfryddiaeth gan T Gwyn Jones MA http://www.genuki.org.uk/big/wal/CMN/CMNAntBeccaBio.html

old-maps.co.uk: Mapiau Ordnans Hanesyddol
Mae’n darparu mynediad ar lein i archif mapiau hanesyddol Landmark a’r Arolwg Ordnans. Tan yn ddiweddar archif papur yn unig oedd casgliad yr Arolwg Ordnans o mapiau hanesyddol Prydain Fawr. Mae archif digidol helaeth bellach wedi ei greu.
Gwefan: www.old-maps.co.uk

 

 

 

 

Logo PLANED

Logo Amcan 1 yr UE

Logo GGG

Cychwynnodd Bro Beca yn 2002 fel prosiect ar y cyd rhwng Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu (PLANED) ac Antur Cwm Taf Tywi (ACTT).

Amcanodd y prosiect gynorthwyo cymunedau yn Sir Benfro a Sir Gâr i ddatgelu a dehongli eu hanes ynglyn â Therfysgoedd Beca.

Ariannwyd Bro Beca gan Fwrdd Croeso Cymru, Gronfa Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd a Chronfa RGTCG.

Mae Prosiect Bro Beca yn parhau yn Sir Benfro o dan Raglen Naws am Le PLANED, ariennir gan Gronfa Gweithredu dros Gymunedau Gwledig (GGG) Llywodraeth Cynulliad Cymru.