|
Digwyddiadau y Gorffennol
CYSTADLEUAETH
BALEDI'N CYFLEU YSBRYD Y BECA
Ar nos Wener 4 Tachwedd 2005,
daeth Terfysg y Beca yn fyw yng ngeiriau beirdd o bob rhan o Gymru yng
Nghystadleuaeth Baledi Bro Beca yn Nhy Bloomfield, Arberth.

Mae'r diolch am lansio’r gystadleuaeth yn ddyledus
i ddyfeisgarwch yr Athro Hywel Teifi Edwards. Rhoes yr Athro Edwards her
i feirdd Cymru gyfansoddi baledi newydd yn dathlu hanes Terfysg y Beca
a chytunodd yn garedig iawn i arwain y gweithrediadau.
Cyflwynwyd cyfanswm o ddeg baled, pump yn y categori Cymraeg
a phump yn y categori Saesneg. Roedd llawer o gystadleuwyr wedi teithio
cryn bellter i gymryd rhan. Roedd pob ymgais yn emosiynol a phryfoclyd,
ac yn tanlinellu arwyddocâd protestiadau cymdeithasol o'r fath o
fewn cymdeithas gyfoes.
Beirniadwyd y cynnwys llenyddol gan Merêd
Evans a Phyllis Kinney. Mae'r ddau'n adnabyddus fel datgeiniaid ac ysgolheigion
canu gwerin Gymreig.
Enillwyd y ddwy wobr gyntaf yn yr adran lenyddol
Saesneg, yn gwbl haeddiannol, gan feirdd lleol. Cyflwynwyd y wobr gyntaf
o £150 a thlws prydferth, wedi ei lunio gan Roy Thedvall o Grymych,
i Chris Stephens o Lawhaden am ei faled yn dwyn y teitl, ‘A Call
to Narberth Town’. Aeth yr ail wobr o £100 i Keith Skipper
o Faenclochog am faled o'r enw ‘An Amazing Race’. Rhoddwyd
y drydedd wobr o £50 i Alun Howell o Gaerffili am ‘The Fields
of Gelli Fechan’.
Yn yr adran lenyddol Gymraeg dyfarnwyd y wobr gyntaf o
£150 a thlws i Myrddin ap Dafydd o Wynedd, sydd wedi ennill Cadair
yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, am ei gynnig, ‘Beca a’r
Dragoons’. Aled Lloyd Davies o Sir Fflint, perfformiwr a chefnogwr
hirhoedlog o'r Eisteddfod Genedlaethol dderbyniodd yr ail wobr o £100
am y faled ‘Llosgwn y Iet’. Dyfarnwyd y drydedd wobr o £50
i'r bardd lleol, Wyn Owens o Fynachlog-ddu, sydd wedi cyhoeddi cyfrol
yn ddiweddar, am ei gynnig ‘Merched Beca’.
Beirniadwyd y gystadleuaeth am ‘Berfformiad Gorau'r
Noson’ yn Gymraeg ac yn Saesneg gan Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau
Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol, a Tegwyn Jones, gynt o Lyfrgell Genedlaethol
Cymru, Aberystwyth, y ddau'n hynod wybodus ynghylch canu gwerin yng Nghymru.
Rhoddwyd y tlysau i Aled Lloyd Davies am ‘Berfformiad Gorau'r Noson
yn Gymraeg’ a rhannwyd y wobr am ‘Berfformiad Gorau'r Noson
yn Saesneg’ rhwng Ffion Thomas o Bowys a Cath Morgan o Abertawe

Llun: chwith i'r dde, Keith Skipper, Tegwyn Jones, Chris
Stephens, Robyn Tomos, Ffion Thomas, Cath Morgan, Hywel Teifi Edwards,
Sarah Pugh - Swyddog Prosiect Bro Beca, Aled Lloyd Davies, Alun Howell,
Wyn Owens ac Arthur Thomas ar ran Myrddin ap Dafydd.
Dymuna Prosiect Bro Beca ddiolch i'r holl feirniaid am
eu hamser a'u hegni wrth gloriannu'r gystadleuaeth, tasg a wnaed yn andros
o anodd oherwydd safon uchel y cynigion. Diolch hefyd i Ann Lewis am gyfieithu
ar y noson.

LLun: Cystadleuaeth Baled Brobeca Cynlluniwyd
a gwnaed y tlws gan Roy Thedvall
Y
noddwyr gwobrau oedd - Texaco, Ivor Rees a'i Feibion, Brodyr Richards,
Moduron Midway, Jones Login, Brodyr Young, Menter Iaith Sir Benfro a PLANED.
Heb eu cyfraniadau ni fyddai'r noson wedi bod yn bosib.


.
  
LAWNS CYSTADLEUAETH
BALED BRO BECA
Ar
nos Wener 8fed Gorffennaf ymunodd Mererid Hopwood, Tecwyn Ifan ac Hywel
Teifi Edwards â thrigolion lleol o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
i lawnsio Cystadleuaeth Baled Bro Beca. Nôl ym mis Tachwedd 2004
gosodwyd yr her gan Hywel Teifi Edwards taw dylai pobl Cymru gael eu ysbrydoli
i gyfansoddi baledi newydd i gynnal chwedl Rebecca. Yn ystod y lawns fe’m
hatgoffodd fod etifeddiaeth Rebecca mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn
1839. Tanlinellodd Mererid Hopwood y pwysigrwydd o gofio a dathlu hanes
Cymru fel nad yw ein treftadaeth a diwylliant unigryw yn cael ei golli.
Ysbrydolodd Tecwyn Ifan y sawl a oedd yn bresenol drwy berfformio nifer
o faledi a oedd yn adrodd hanes Rebecca, gan gynnwys un a gyfansoddodd
ei hun- ‘Ysbryd Rebecca’.
Ffotograff: chwith i’r dde- Richard Meade
ACTT, Tecwyn Ifan, Sarah Pugh Swyddog Prosiect Bro Beca PLANED, Mererid
Hopwood ac Hywel Teifi Edwards
TERFYSGOEDD
AR Y FFORDD
Yn
ystod Ionawr 2005 ymwelodd Arddangosfa Symudol Bro Beca, o fewn trelar
marchnata Coleg y Drindod, â chymunedau trwy Sir Gaerfyrddin gan
gynnwys Efailwen, Hendygwyn, Sanclêr, Caerfyrddin, Drefach a Gwynfe.
Adroddodd yr arddangosfa hanes Terfysgoedd Rebecca gan ddangos pam fod
trigolion wledig Gorllewin Cymru wedi dewis i falu giatiau yr ymddiriedolaethau
tollbyrth, y targedau a ddewiswyd a goblygiadau eu gweithredoedd. Adroddodd
yr arddangosfa hefyd hanes y cymeriadau a oedd yn rhan o’r terfysgoedd
a’r cosb a dderbyniwyd ganddynt am eu rhan yn Nherfysgoedd Rebecca.
Gwahoddodd
Owain Davies, Swyddog Prosiect Bro Beca, pobl lleol o bob cymuned i ddod
a rhannu yr hyn roeddynt yn gwybod am hanes Terfysgoedd Rebecca yn eu
hardal. Daeth llawer gyda lluniau o ail-berfformiadau, toriadau o bapurau
newydd, cerdiau post o olygfeydd pentrefol, mapiau a straeon roeddynt
wedi clywed gan eu cyndeidiau.
Mae
Prosiect Bro Beca dal â diddordeb mewn derbyn gwybodaeth sydd gennych
am hanes Terfysgoedd Rebecca, gan gynnwys bywyd yn eich cymuned yn ystod
y cyfnod rhwng 1839 a 1844. Os oes gennych unrhyw wybodaeth hoffech ei
rannu gyda ni cysylltwch â Sarah Pugh ar 01834 862105.
Ffotograff – Yr arddangosfa
symudol tu allan i Ganolfan Crefftiau Gorllewin Cymru yn Sanclêr
Ffotograff - Owain Davies ac aelod o gymuned Efailwen
Ffotograff - Aelodau’r gymuned yn edrych ar
yr arddangosfa yn Hendygwyn
HYFFORDDIANT GWYLIAU A
DIGWYDDIADAU BRO BECA
Yn ystod mis Ionawr a Chwefror 2005 darparodd Prosiect
Bro Beca, wedi ei leoli yn ACCT yn Sanclêr, hyfforddiant gwyliau
a digwyddiadau rhad ac am ddim i aelodau cymunedau trwy gydol Sir Gaerfyrddin.
Anelwyd yr hyfforddiant tuag at bobl a oedd eisiau gwella gwyl a fodolai
eisoes neu dechrau gwyl newydd yn eu cymunedau. Roedd yr hyfforddiant
yn edrych ar pynciau fel cynllunio, ariannu, cyhoeddusrwydd ac hyrwyddo,
trwyddedi ac asesu peryglon. Cafodd pob un a gymerodd rhan becyn gwybodaeth
gan PLANED. Cynhaliwyd yr hyfforddiant un noswaith yr wythnos yng Nghanolfan
Datblygu Busnes Wledig Cyngor Sir Caerfyrddin yn Nantyci.
Os hoffech fwy o wybodaeth am hyfforddiant gwyliau a digwyddiadau yn Sir
Benfro cysylltwch â PLANED ar 01834 960965.
HYWEL TEIFI
EDWARDS YN AILGYNNAU CHWEDL Y BECA
Ar
y 26ain o Dachwedd 2004, yn Neuadd Bentref Llanboidy, fe'n hatgoffwyd
gan Hywel Teifi Edwards fod arwyddocâd digwyddiadau Terfysg y Beca
yr un mor berthnasol heddiw ag oedden nhw'n 1839. Yn ei sgwrs afieithus
am gymeriadau'r Terfysg, yr arwyr a'r dihirod, dywedodd Hywel Teifi Edwards
ei bod yn hanfodol bwysig i gofio a dathlu ein hanes trwy gyfrwng ein
traddodiadau diwylliannol. Cyflawnodd Brian John yr union beth yn ddiweddar
ac roedd e'n bresennol i sôn am ei nofel newydd, y bedwaredd yng
nghyfres ‘Angel Mountain’ sef ‘Rebecca and the Angels’;
cyflwyniad dychmygol o fywyd yng nghyfnod y Terfysgoedd yn amlinellu'r
rhesymau pam y teimlai nifer o bobl reidrwydd i gymryd rhan yn y gwrthryfel.
Darllenwyd darnau gafaelgar o'r nofel gan Lis Evans, yn disgrifio'r cyfarfodydd
a gynhaliwyd yn y cyfnod cyn y terfysgoedd a'r hyn y bu'n rhaid i'r rhai
hynny a fu'n cymryd rhan ei ddioddef yn ddiweddarach. Roedd Neuadd Bentref
Llanboidy yn lleoliad ardderchog ar gyfer y noson. Wrth gyflwyno'r noson
dywedodd Muriel Bowen Evans mai tollborth Maesgwyn gerllaw oedd yr ail
i gael ei dinistrio (ar ôl tollborth Efailwen) ar y 15ed o Fehefin
1839, yn ystod y terfysg dechreuol. Roedd Prosiect Bro Beca yn falch o
fedru trefnu `Noson Beca` ac yn ddiolchgar i Hywel Teifi Edwards, Brian
John, Lis Evans a Muriel Bowen Evans am eu cyflwyniadau arbennig ac am
barhau i gefnogi'r prosiect.
Cyllidir Prosiect Bro Beca gan Gronfa Amcan 1 yr Undeb
Ewropeaidd ac fe'i lleolir yn swyddfeydd PLANED yn Arberth.
Ffotograff, o'r chwith i'r dde – Lis
Evans, Sarah Pugh (Swyddog Prosiect Bro Beca Sir Benfro), Brian John,
Hywel Teifi Edwards, Owain Davies (Swyddog Prosiect Bro Beca Sir Gaerfyrddin),
Muriel Bowen Evans.
LANSIAD
PROSIECT
Lawnsiwyd
Prosiect Bro Beca yn Neuadd Capel Bethlehem a thafarn y White Lion ym
Mhwll Trap ar Ddydd Gwener Tachwedd 22ain, 2002. Ar y noson cafwyd ail-berfformiad
o’r Ceffyl Pren a llosgi’r tollborth, bron 160 mlynedd i’r
diwrnod i’r hyn a ddigwyddodd go iawn ym y pentref. Ray Gravell
chwaraeodd rôl Beca, yn rheoli torf afreolus o dan arweiniad Dafydd
Hywel ac yn cynnwys myfyrwyr o Coleg y Drindod, Caerfyrddin ac aelodau
Hoelion Wyth Efailwen.
Dechreuodd y noson yn neuadd y Capel. Cyflwynodd Mererid
Hopwood prosiect Bro Beca, ac fe’i dilynwyd gydag adloniant gan
blant Ieuenctid Clwb Cristnogol San Clêr a’r Hoelion Wyth.
Wrth iddo ddechrau, daeth Ray Gravell yn ganolbwynt yr ail-berfformiad.
Arweiniodd y gynulleidfa i ardd y White Lion. Pasiodd y dorf y tolldy,
a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer y noson, a gorymdeithiwyd i’r
tollborth lle cafwyd pantomeim ar ffurf y Ceffyl Pren. Dinistriwyd y tollborth
a cymerwyd darnau o bren i’r coelcerth a’i gynnu. Daeth terfyn
ar ddigwyddiadau gyda cân arall o’r Hoelion Wyth a bloeddio
terfysglyd o’r dorf enfawr.
Gwahoddwyd y gynulleidfa i’r White Lion i fwynhau
caws a bara ac i flasu “Blas Beca”, cwrw a gafodd ei fascu’n
arbennig ar gyfer y prosiect. Cafwyd cerddoriaeth gwerinol gan grwp gwerin
lleol i ddod a’r noson i ben.
Cafodd tipyn o sylw i’r digwyddiad yn y cyfryngau gan gynnwys BBC
Radio Cymru, Agenda ar gyfer rhaglen S4C, Wedi 6, a cafwyd adroddiad amdano
yn y Western Telegraph, Carmarthen Journal, Tivyside Advertiser a Carmarthenshire
/ Pembrokeshire Life.
Gwnaeth bawb fwynhau’r noson yn fawr ac roedd yn gyfle i drafod
gyda cymunedau a oedd eisoes yn rhan o’r prosiect yn ogystal a’r
sawl a oedd a diddordeb i fod yn rhan ohono. Cytunwyd y byddai nosweithiau
fel hyn yn ymarferol i ddyfodol y prosiect, ac mae grwp Bro Beca San Clêr
wedi dangos diddordeb i wneud hyn yn achlysur flynyddol.
Roedd y mwyafrif o wahoddedigion yn awyddus i wisgo’r dillad Beca
a ddarparwyd a gwnaeth nifer duo eu gwynebau. Roeddynt yn gynrhychiolwyr
cymunedau lleol a oedd eisoes ynghlwm â’r prosiect a chynrhychiolwyr
partneriaid y prosiect. Mae’r dillad a’r tolldy ar gael i
unrhyw gymuned sydd am gynnal ail-berfformiad.
Cafwyd lawnsiad llwyddiannus iawn a hoffai ACTT a PLANED ddiolch i bawb
a gymerodd rhan.
Ffotograff - Ray Gravell a Dafydd Hywel yn dinistrio’r
glwyd yn lawnsiad Prosiect Bro Beca, Pwll Trap, Sanclêr, Tachwedd
22ain 2002.
|