|
Cymunedau
Bwriad Prosiect Bro Beca yw gweithio gyda chymunedau yn
Sir Benfro er mwyn canfod eu treftadaeth. Un o amcanion y prosiect yw
annog cymunedau i ymchwilio i weithgaredd Beca yn eu hardaloedd er mwyn
darganfod sut fywyd oedd yn yr ardal adeg y terfysgoedd, beth yrrodd pobl
oedd yn ufudd i’r gyfraith ymddwyn mor dreisgar, gyda chanlyniadau
fel gweithredoedd Beca. Mae’r prosiect hefyd yn diddori mewn ffyrdd
tyrpeg, a hoffem ddarganfod unrhyw gerrig milltir neu nodweddion materol
arall sy’n dal i fodoli, fel adfeilion o dai toll ar hyd ffyrdd
yr ardal.
Ffyrdd, Terfysg a Rebecca –
Cyfarfodydd Treftadaeth Cymunedol Sir Benfro
Cynhaliwyd cyfarfodydd treftadaeth cymunedol
dros Sir Benfro i ddadorchuddio hanes Terfysgoedd Rebecca ar draws y sir.
Mynachlog-ddu
3ydd Mawrth 2005 & 12fed Mai 2005
Prif
bwnc y cyfarfodydd yma oedd hanes Thomas Rees, sy’n fwy adnabyddus
fel Twm Carnabwth, y Rebecca cyntaf. Yn ystod y ddau cyfarfod rhoddodd
aelodau’r gymuned wybodaeth am ei gymeriad, ei deulu, ei weithgaredd
hwyrach gyda Chapel y Bedyddwyr Bethel, gwybodaeth o’i garreg fedd
ac o’i dystysgrif geni. Darganfuwyd fod anghysondeb rhwng ei garreg
fedd a’i dystysgrif marwolaeth yn nhermau dyddiad ei farwolaeth
a’i oedran ar y pryd. Mae ei garreg fedd yn nodi ei fod wedi marw
ar Medi’r 17eg 1876 yn 70 oed, tra fod ei dystysgrif marwolaeth
yn nodi ei fod wedi marw ar Hydref 19eg 1876 yn 72 oed. Mae’r ddau
yma’n wahanol i manylion sensws 1851, 1861 a 11871 lle nodir ei
oedran yn 43, 54 a 64 oed, sy’n golygu y fyddai mewn gwirionedd
yn 69 oed yn 1876. Mae’n anodd gwybod pa gyfrif sy’n gywir
gan fod lefelau llythrennedd isel yn golygu nad oedd pobl yn gwybod dyddiad
eu penblwydd na’u gwir oed. Tybir fod manylion y sensws yn fwy cywir
gan fod y wybodaeth wedi ei roi gan Twm ei hun yn hytrach na wybodaeth
ail-law a gasglwyd wedi ei farwolaeth.
Er
cof am
Thomas Rees
Trial or plwf hwn
Bu farw Medi 17 1876
Yn 70 oed
‘Twm Carnabwth’
“Nid oes neb ond Duw yn gwybod
Beth a ddigwydd mwen diwornod
Wrth gyrchu bresych at fy nginio
Daeth angau i fy ngardd i’m taro”
Daeth hanes diddorol iawn i’r olwg yn ystod y cyfarfodydd.
Cafodd hanes y ‘Cleddyf yn y Wal’ ei gynnwys mewn rhaglen
deledu o’r enw ‘Revealing Secrets’ a ddarlledwyd ar
Channel 4. Roedd saer maen lleol yn adfer ty yn yr ardal pan ddarganfuodd
cleddyf wedi ei chladdu yn y wal blaen. Cymerodd y cleddyf i’r amgueddfa
yn Hwlffordd lle cafwyd ei fod yn gleddyf Swyddog Troedfilwyr Fictorianaidd
ac o’r manylion ar y carn a’r patrwm dyddiwyd y cleddyf rhwng
y flynyddoedd 1837 ac 1845, yr un cyfnod a Terfysgoedd Rebecca. Canfuwyd
fod y person a oedd yn byw yn y ty ar y pryd hefyd yn saer maen o’r
enw John Johns. Penderfynwyd fod y cleddyf mwy na thebyg naill ai fod
wedi ei gymryd oddi wrth swyddog neu wedi ei ollwng yn ystod un o’r
sgarmesu Rebecca a’i godi gan John Johns a’i gymryd gartref
fel tlws. Gan ofni byddai’r cleddyf yn ei gysylltu â’r
terfysgoedd gallai’r saer maen fod wedi adeiladu’r cleddyf
i fewn i’r wal fel na fyddai’n gael ei ddarganfod.
Llun 1 – Carreg fedd Twm Carnabwth,
Capel Bethel Mynachlog-ddu
Llun 2 – Golwg agos o carreg fedd Twm Carnabwth
Arberth
9fed Mawrth, 27ain Ebrill & 8fed Mehefin 2005
Roedd aelodau cymuned Arberth â diddordeb mewn dadorchuddio gwybodaeth
bellach am gyfraith y tlawd yn benodol, a achosodd nifer o derfysgoedd
gan Rebecca. Roedd pobl Arberth yn gryf yn eu gwrthwynebiad i sefydlu
wyrcws yn y dref ac wedi ymosod arno hyd yn oed cyn gorffen y gwaith adeiladu.
Roedd y fersiwn diwygiedig o Gyfraith y Tlawd wedi gwarthnodi’r
tlawd a’r sal ac yn arbennig o lym ar mamau di-briod a’r amddifad.
Sefydlwyd y tlotai ac nid oedd pobl cydnerth yn gallu derbyn cymorth gan
y plwyf yn eu cartrefi eu hunain. Roedd amodau’r wyrcws yn bwrpasol
llym er mwyn darbwyllo pobl rhag eu mynedi. Gwahanwyd teuluoedd a fynedodd
y wyrcws. Gorfodwyd gwr a gwraig i fyw ar wahan. O dan yr hen system,
byddai’r plwyf wedi cefnogi’r teuluoedd hynny oedd yn mynd
trwy amseroedd caled. Roeddynt wedyn yn gallu codi eu hunain yn ôl
ar eu traed pan roedd gwaith ar gael. Roedd y system newydd yn golygu
fod rhaid i deuluoedd a oedd yn profi amseroedd caled fynedi’r wyrcws.
Byddent yn colli eu cartref os nad oeddynt yn parhau i dalu’r rhent.
Roedd yn fwy caled iddynt ail-sefydlu eu hunain wedi iddynt adael y wyrcws.
Abergwaun
16eg Mawrth 2005 & 4ydd Mai 2005
Edrychodd y cyfarfodydd yn Abergwaun ar y ffaith fod Ymddiriedolaeth Abergwaun
yn enwog ymysg yr ymddiriedolaeth tollbyrth. Nodwyd camreolaeth a llygredd
yn glir yng ‘Nghomisiwn yr Ymchwilad’ (copi ar gael yn Llyfrgell
Caerfyrddin)
Dyma’r ffyrdd gwaethaf yn y sir ac nid oedd un geiniog o’r
tollbyrth yn cael ei wario i drwsio’r ffyrdd, dyletswydd a oedd
dal yn perthyn i’r Plwyf. Roedd llygredd yn bla. Aethpwyd ag un
ffordd o Abergwaun i Aberteifi yn bwrpasol lan lethr serth yn hytrach
nag ar hyd tir gwastad a fyddai wedi bod yn haws ac yn rhatach i’w
gynnal yn y tymor hir. Y rheswm am hyn oedd fod un o’r Ymddiriedolwyr
am i’r ffordd redeg drwy ei dir ef er lles ei hun. Roedd hefyd yn
anodd i clerc yr ymddirioedolaeth i weithio ei gyllid gan nad oedd cofnodion
ariannol iawn i’w canfod.
Beca ym Mhontyberem, Sir
Gâr
Anfonwyd yr wybodaeth hon i Fro Beca gan Bethan. Fe’i
hysgrifennwyd gan Stephen Rees yn 1922. Meddai am ei dad-cu, Stephen Evans
o fferm Cilcarw Uchaf, ger Pontyberem:-

Ysgrifennodd aelod arall o’r teulu, Stephen
Gealy o Gilcarw yn fwy manwl ynglyn â rheiny a oedd yn bresennol
yn y cyfarfod.
Ysgrifennodd Bethan "Both
quotations come from family papers, and while Stephen Rees' is hardly
unbiased, it probably reflects the family's attitude!! Poor old Shoni".
Beca ym Mhontarddulais Sir
Gâr
Anfonodd
Alan Richards o Bontarddulais y ffotograff hwn o garreg goffa a godwyd
gan Gyngor y Gymuned i goffáu’r ymosodiad ar Dollborth Pontarddulais
yn 1843.
Mae’r arysgrif yn nodi:
REBECCA
Dinistriwyd Gât Pontarddulais gan Ferched Beca dan
eu harweinydd John Hughes (Jac Ty-isha) ar Fedi 6ed 1843.
The Pontarddulais Toll-gate was destroyed on the
6th September 1843 by the daughters of Rebecca led by John Hughes (Jac
Ty-isha).
|