Prosiect Bro Beca

A ydych wedi clywed unrhyw straeon lleol am Derfysgoedd Beca?

A ydych yn ymwybodol o leoliad tollbyrth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn eich ardal chi?

Beth oedd amodau byw y werin bobl yn eich ardal chi yn ystod y 1840’au?

Hoffech chi ymuno gydag eraill yn eich cymuned er mwyn dod o hyd i achosion a chanlyniadau y gwrthryfel, a ddaeth yn adnabyddus fel Terfysgoedd Beca?

Bwriad y prosiect yma sydd wedi ei wreiddio yn y gymuned yw adeiladu a chyfoethogi ar ddiwylliant hanesyddol a chyfoes `Beca` sy'n uno cymunedau Sir Benfro.

---------------------------------------------------------------

Llechfaen i goffáu dinistrio’r tollborth gyntaf ar 13eg Mai yn Efailwen.

Llechfaen i goffáu dinistrio’r tollborth gyntaf ar 13eg Mai yn Efailwen.

 

 

 

Logo PLANED

Logo Amcan 1 yr UE

Logo GGG

Cychwynnodd Bro Beca yn 2002 fel prosiect ar y cyd rhwng Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu (PLANED) ac Antur Cwm Taf Tywi (ACTT).

Amcanodd y prosiect gynorthwyo cymunedau yn Sir Benfro a Sir Gâr i ddatgelu a dehongli eu hanes ynglyn â Therfysgoedd Beca.

Ariannwyd Bro Beca gan Fwrdd Croeso Cymru, Gronfa Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd a Chronfa RGTCG.

Mae Prosiect Bro Beca yn parhau yn Sir Benfro o dan Raglen Naws am Le PLANED, ariennir gan Gronfa Gweithredu dros Gymunedau Gwledig (GGG) Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

 
 

Llechfaen i goffáu dinistrio’r tollborth gyntaf ar 13eg Mai yn Efailwen.

Mae’r arysgrif yn nodi:

GYFERBYN AR GARREG
HON AY Y 13EG O FAI
1839 Y DINISTRIWYD
TOLLBORTH AR Y FORDD
DYRPEG AM Y TRO
CYNTAF A THRWY
HYNNY DECHREUWYD
RHYDDHAU FFYRDD
Y WLAD