|
Y Terfysgoedd Beca
Ar Fehefin y 6ed 1839, dinistriwyd y dollborth
yn Efailwen, a llosgwyd y tolldy. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr,
gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo
dillad menywod.

Ymosodwyd ar y dollborth a’r ty yn
Efailwen ddwywaith o fewn dau fis. Sbardunodd yr ymosodiadau gyfres o
ddigwyddiadau tebyg mewn nifer o gymunedau yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin,
sef yr hyn a elwir yn Derfysgoedd Beca.
Daeth Merched Beca “yn symbolaeth o’r
werin bobl â orthrymwyd gan anghyfiawnder dynol a’r ymdrech
gan ddynion a menywod yn erbyn tlodi didostur… ac ar yr adegau hynny
teimlent hwy fel meibion a merched Beca, ac felly y bendithiwyd Beca,
a fu’n gyfrifol am feddiannu clwydi eu gormeswyr.”
David Williams, The Rebecca Riots, argraffwyd
1971.
Bu Terfysgoedd Beca yn fynegiant pwerus o hunaniaeth ddiwylliannol
unigryw y gymuned, a pharhau gwna delwedd Beca i dreiddio drwy profiad
y rhai sy'n byw yma heddiw.
Bywyd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn
y 1830au a’r 1840au
Dau gan mlynedd yn ôl amaethyddiaeth oedd prif ddiwydiant
Cymru. Roedd bywyd yng nghefn gwlad yn galed a chyntefig. Nifer fechan
iawn oedd yn medru darllen ac ysgrifennu.
Bu nifer o gwynion am y sefydliad:
Y system o weinyddu cyfiawnder gan mai’r dosbarth breintiedig, y
tirfeddiannwyr, oedd yr ynadon.
Cau tir comin
Sefydlu’r tlotai
Pobl yn ddibynnol ar yr un defnyddiau prin wrth i boblogaeth dyfu
Hawlio arian i gadw’r tlotai, trethu’r eglwysi a’r tollbyrth.
Sefydlu Ffyrdd tollau
Prif darged Beca oedd tollbyrth yr Ymddiriedolaethau Tyrpeg
ac er fod ganddyn nhw gwynion eraill, y tollbyrth fu canolbwynt yr ymgyrch;
roeddynt yn codi tâl ar ffermwyr am ddefnyddio’u ffyrdd, a
golyga hyn bod cludiant yn ddrud iawn. Roedd ffermwyr eisoes yn dlawd
a’u rhenti’n uchel.
Cafodd cwmniau eu sefydlu gan ddeddfau Seneddol yn ystod
y ddeunawfed ganrif i alluogi buddsoddwyr preifat i ysgwyddo’r baich
o ofalu am y ffyrdd, ar yr amod eu bod yn cael codi toll ar deithwyr wrth
iddynt hwy fynd trwy’r clwydi ar draws y ffyrdd. Bu’r drefn
hon mewn bodolaeth ledled Prydain eisoes; ond yng Ngorllewin Cymru fe
gafodd sawl cwmni bychan ei sefydlu, er enghraifft Ymddiriedolaeth Hendygwyn.
Er mai dim ond rhyw un rhan o bump o’r rhwydwaith oedd yn eu meddiant,
roedd y clwydi yn cael eu hadeiladu ar y prif-ffyrdd, yn aml ger y cyffyrdd
pwysicaf.
Yn aml iawn, roedd gweinyddiad y Cwmniau Tyrpeg yn ddiffygiol
tu hwnt. Doedd gan y cyhoedd fawr o ffydd yn y Cwmniau Tyrpeg oherwydd
bod safon y ffyrdd, er gwaetha’r tollau oedd yn cael eu talu, mor
isel ag erioed.
Bygythiad
o godi tollau
Dechreuodd digwyddiadau Beca yn Haf 1839 oherwydd gweithredoedd
amhoblogaidd Cwmni Tyrpeg Hendygwyn a oedd yn gyfrifol am gynhaliaeth
yr heolydd yn yr ardal. Roedd yr heol o Efailwen ym mhlwyf Llandissilio
i’r de heibio Arberth tuag at yr odyn galch yn Yr Eglwys Lwyd yn
un o’r heolydd a restrwyd yn neddf 1791 a ddaeth a’r Ymddiriedolaeth
i rym. Ychwanegwyd yr heol o Blas Maesgwyn yn Llanboidy hyd at San Clêr
pan ail ysgrifennwyd y Ddeddf yn 1832. Tan yma, nid oedd yr heolydd hyn
wedi’u gwella gan yr Ymddiriedolaeth ac nid oedd clwyd ar yr un
ohonynt. Er hynny, am resymau ariannol, penderfynodd Ymddiriedolaeth Hendygwyn
ar 24ain Ionawr 1839 i adeiladu pedair tollborth newydd yn cynnwys Efailwen
a Maesgwyn.
Ffermwyr wedi cyrraedd pen eu tennyn
Roedd y ffermwyr yn yr ardal wedi cael sawl cynhaeaf gwael,
roeddynt yn dlawd ac yn teimlo’n anobeithiol gyda’r newyddion
o gostau toll, a phenderfynodd y ffermwyr i wneud yr unig beth oedd yn
agored iddynt. Gweithredodd cymuned Efailwen yn gyflym ac yn effeithiol.
Ar noson y 13eg o Fai 1839, dim ond un wythnos ar ôl
i’r glwyd gael ei chodi, dinistrwyd hi yn Efailwen a llosgwyd y
tolldy. Am 10.30 y nos ar y 6ed o Fehefin daeth tyrfa o tua 300 o bobl
wedi’u gwisgo mewn dillad menywod a’u gwynebau wedi’u
duo at y glwyd yn Efailwen a’i dinistrio am yr ail waith.
Ymateb Ymddiriedolaeth Hendygwyn
Gyda gwrthwynebiad o’r fath, beth fedrai Ymddiriedolaeth
Hendygwyn ei wneud?
Cynhaliwyd cyfarfod brys o’r Ymddiriedolaeth yn nhafarn y Blue Boar
yn San Clêr ar y 23ain o Orffennaf 1839, lle roedd llawer o Ynadon
yn bresennol. Yn fuan wedyn, diddymwyd y Ddeddf a greodd y pedair clwyd
newydd. Gorffennwyd y cyffro, roedd Beca wedi trechu.
Paham y gelwid y gwrthdaro yn Derfysgoedd Beca?
Mae yna lawer o ddamcaniaethau paham y cafodd yr enw Beca
ei ddewis fel arweinydd y terfysgoedd. Yn ôl chwedl lleol y Beca
cyntaf oedd Thomas Rees a oedd yn ffermio tyddyn o’r enw Carnabwth
ym mhlwyf Mynachlogddu. Dyweder iddo fenthyg dillad oddi wrth “Rebecca
Fawr” o Langolman ac efallai mai dyma’r ffordd y cafodd yr
enw. Mewn adeg grefyddol mae’n debygol bod yr enw wedi dod o ran
o Lyfr Genesis, Pennod 24, Adnod 60 - “Ac a fendithiasant Rebeccah,
ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddion,ac etifedded
dy had Borth (tollbyrth) ei gaseion”.
Gweithred gyntaf Beca
Ysgubor ar fferm Glyn Saith Maen, Llangolman oedd y man
cyfarfod cyntaf. Yr unig dystiolaeth sydd gennym am ran Twm yn y terfysgoedd
yw llafar gwlad lleol. Dim ond un hen wr a gafodd ei restio gan yr awdurdodau
ar y pryd ac mae’n ymddangos na fu Twm Carnabwth yn ymwneud ag ymgyrch
Beca ar ôl hynny.

Twm Carnabwth
Roedd yn gymeriad lliwgar a’i ymddygiad
yn ehangu o wr crefyddol iawn i rhywun anfad. Roedd yn adroddwr pwnc heb
ei ail ond eto i gyd roedd yn enwog fel bocsiwr mewn ffeiriau yn Siroedd
Penfro, Aberteifi a Chaerfyddin. Mae Twm Carnabwth wedi’i gladdu
ym mynwent Capel y Bedyddwyr Mynachlogddu.
Beca’n ail gychwyn
Bu heddwch rhyfedd ac anesmwyth yn dilyn Efailwen, mae’n
debyg oherwydd i’r ymosodiadau lwyddo; ni chafodd y clwydi a ddinistriwyd
eu hailadeiladu. Ond gosododd Efailwen gynsail i eraill. Pan godwyd clwyd
y Mermaid ar gyffordd Ymddiriedoliaethau y Prif Gwmni a Hendygwyn yn nhref
San Clêr gan y Brif Ymddiriedolaeth a olygai y byddai’n rhaid
i ffermwyr dalu ddwy waith o fewn milltir, buan iawn dinistrwyd y glwyd
ar 18fed o Dachwedd 1842. Dinistrwyd clwydi eraill hefyd. Anfonwyd catrawd
ond roedd y Beca’n dal i weithredu.
Y Ceffyl Pren
Wrth glwyd Pwll Trap chwaraewyd defod Y Ceffyl Pren, sef
hen arferiad gwerin Cymreig o arddangos delw o ‘elyn’ i’r
gymdeithas yn gyhoeddus. Casglodd tyrfa fawr, wedi’u gwisgo mewn
gwahanol wisgoedd, eu gwynebau wedi duo fel na chaent eu hadnabod, gyda’u
harfau arferol a cherdded tuag at y glwyd ym Mhwll Trap. Yn ystod yr ymosodiadau,
byddai un ffermwr yn chwarae rhan Beca ac yn arwain, gyda’r lleill
yn ei ddilyn fel Merched neu Blant Beca. Arhosodd pawb o fewn llathenni
a dyma Beca – yn grwm, yn gloff a phwyso fel hen wraig ar ei ffon
ddraenen ddu – yn cerdded tua’r glwyd. Gan ymddangos yn ddall,
mae’n ymestyn ei ffon ac yn cyffwrdd â’r glwyd.
Beca: (yn teimlo’r gât gyda’i ffon)
– “plantos mae rhywbeth wedi ei osod yma! Dwi methu mynd ymlaen.”
Merched: “Beth sy’ ’na mam? Ni ddylai
fod dim yn dy rwystro.”
Beca: “Dwi ddim yn gwybod blantos. Dwi’n hen
ac yn methu gweld yn dda.
Merched: “A ddylwn ni ei symud o’r ffordd
mam?”
Beca: “Aroswch; gadedwch i mi weld (yn teimlo’r
gât gyda’i ffon). Mae fel petai gât fawr wedi’i
rhoi ar draws yr hewl i rwystro eich mam.”
Merched: “Mi dorrwn hi lawr mam. Ni ddylai dim yn
dy rwystro di ar dy taith.”
Beca: “Na; gad i ni weld, efallai galla’i
ei agor (yn teimlo’r clo). Na blantos. Mae wedi cael ei bolltio
a’i chloi a dwi’n methu mynd ymlaen. Beth wnawn ni?”
Merched: “Mae rhaid ei thynnu i lawr mam. Mae rhaid
i ti a’th blant fynd heibio.”
Beca: “Bant a hi te fy mhlant. Does dim hawl iddi
fod yma.”
Dangosodd fel pe byddai yn methu credu na allai fynd ymlaen.
Chwalwyd a llosgwyd y glwyd o fewn deng munud.
Beca’n ymweld â Chaerfyrddin
Ymledodd yr helynt gyda niferoedd y tollbyrth a ddrylliwyd
yn cynyddu a daeth gweithredoedd arall yn ran o helyntion Beca.
Roedd y mwyafrif o’r farn na fyddai Beca’n
meiddio dod i’r dref ond ar nos Wener, 26ain o Fai 1843 ymosododd
300 o ferched ar glwyd Ymddiriedolaeth Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn
yn Heol Dwr.
Roedd Caerfyrddin erbyn hyn mewn cyflwr o banic. Roedd
y wlad o amgylch tu hwnt i reolaeth yr ynadon; eu hawdurdod sifil yn destun
gwawd. Cafodd clwydi ledled Sir Gaerfyrddin eu dinistrio yn ystod yr wythnos
ddilynol gan gynnwys y rhai yn Llandeilo, Castell Newydd Emlyn a Phenbre.
Protest Fawr
Ym mis Mehefin 1843 gwelwyd un o ddigwyddiadau mwya’r
Mudiad, sef gorymdaith mewn i Gaerfyrddin yn ngolau dydd er mwyn hysbysu
cwynion Beca.
Daeth torf o dros bedair mil ynghyd ger y ‘Plough and Harrow’
cyn gorymdeithio i Gaerfyrddin dan arweiniad ‘Beca’ i gyfeiliant
seindorf, gyda baneri’n datgan:
“Cyfiawnder a charwyr Cyfiawnder ydym ni oll”
ac eraill fel Rhyddid a Bwyd”; “Tollau rhydd a rhyddid”.
Ar hyn carlamodd mintai o ddeugain o filwyr y ‘4th
Dragwns’ dan arweiniad Uwchgapten Parlby, i’r Tloty, gan chwifio
eu cleddyfau yn yr awyr a rhwystro’r ffordd allan. Gwasgarodd y
dyrfa ond cafodd tua cant ohonynt eu dal.
Dihangodd ‘Beca’ ei hun drwy adael ei geffyl
a dringo dros fur y Tlotdy. Honnodd Alcwyn Evans mai Michael Bowen o Drelech
oedd Beca, ac mai ef oedd wedi bod yn Heol Dwr.
Llundain yn ymholi
Yn sgíl y cyhoeddusrwydd a gafodd ei greu gan y
gwrthdystiad yng Nghaerfyrddin, anfonodd “Y Times” ei ohebydd
ei hun T C Foster, yno. Cyrhaeddodd Caerfyrddin ar 22ain o Fehefin ac
ar yr un diwrnod rhoddwyd milwyr yr ardal dan reolaeth y Cyrnol J F Love.
Y trydydd person i gyrraedd ar 22ain Mehefin oedd y Cyrnol George Rice
Trevor, AS, Dirprwy Raglaw Sir Gaerfyrddin, a oedd wedi dychwelyd o Lundain
i gymryd yr awennau oddi ar ei dad, oedd yn wael.
O fewn ychydig o ddyddiau roedd Foster wedi mynd ati i
ddeall rhesymau sylfaenol yr helyntion yn hytrach na gwarthnodi’r
terfysgwyr fel ‘dihirod tu hwnt i’r gyfraith’ fel y
gwnaeth y ‘Carmarthen Journal’
Gweithredu i dawelu’r dyfroedd
Felly, mewn llai nag wythnos ar ôl gwrthdystiad
Caerfyrddin, ychwanegwyd agwedd hollol wahanol i’r helyntion gan
y Cyrnol Love, T C Foster a’r Cyrnol Trevor, y prif ynad. O hyn
ymlaen cafwyd mwy o drefn ar y modd yr ymdriniwyd â’r terfysgoedd.
Roedd y tri unigolyn yma i chwarae rhan bwysig yn hanes Beca yn y tymor
hir. Er hynny, fe barhaodd yr ymosodiadau fel arfer am y tro.
Yn Awst 1843 sefydlwyd archwiliaid rhagarweiniol gan y
Swyddfa Gartref ac ar ddydd Llun, 30ain Hydref agorodd Comisiwn Ymchwiliad
eu gweithrediadau yng Nghaerfyrddin a dechreuwyd cymryd tystiolaeth.
Beca’n gweinyddu cyfiawnder lleol
Nododd y Swyddog oedd yn gyfrifol am y milwyr yng Nghorllewin
Cymru ym mis Gorffennaf 1843 bod niferoedd mawr o weithwyr o Ferthyr a
Dowlais wedi dod mewn i’r Sir a’u bod yn annog drygioni. Daeth
gweithredoedd Beca yn ran o gyfiawnder lleol. Enghraifft o hyn yw bod
tyddyn wedi’i losgi yng Ngwynfe yn mis Medi 1843. Mae straeon eraill
am Becca’n gorfodi llanciau i briodi eu cariadon ar ôl i’r
merched ganfod eu hunain yn feichiog. Mae’n ymddangos fod Beca’n
barod i weithredu os oedd yn credu fod yna achos cyfiawn i wneud hynny.
Fe allai hyn olygu ymosod ar darged a oedd yn cynrychioli cwyn gan y Gymuned,
neu ymyrryd mewn anghydfod neu ddadl breifat.
Beca allan o reolaeth
Wrth i’r mudiad ymledu fwy i ddwyrain Sir Gaerfyrddin
tuag at yr ardaloedd diwydiannol, dechreuodd pethau fynd yn fwy ffyrnig
a’r awdurdodau yn fwy pendant. Yn wir, lladdwyd ceidwad tollborth
yr Hendy, Sarah Williams, ym mis Medi.
Yn y cyfnod yma gwelwyd un o garfanau mwyaf gweithgar
mudiad Beca lle fyddai’r arweinwyr yn cyfarfod yn nhafarn y “Stag
and Pheasant” yn Pump Heol gan gynnwys John Jones (Shoni Sgubor
Fawr) a David Davies (Dai’r Cantwr). Gyda’i gilydd fe arweiniodd
y ddau amryw o ymosodiadau yn yr ardal, ond nid yr un oedd eu cymhellion
hwy â arweinyddion cynnar Beca, gyda chynnydd mewn defnydd o drais,
a’u parodrwydd i dderbyn ‘cytundebau’ i ddatrys helyntion
preifat.
Yn dilyn tystiolaeth a roddwyd yn erbyn y ddau, cyhoeddwyd
gwarant i arestio’r terfysgwyr. Cynhaliwyd yr achos yng Nghaerfyrddin
ac alltudiwyd Shoni am weddill ei oes a Dai am ugain mlynedd, ond fe adawodd
y ddau y doc dan chwertin.
Dioddefaint arwr y werin
Daeth gwybodaeth i law ynad Llanelli, William Chambers
ar 6fed o Fedi fod Beca’n mynd i daro clwydi Pontarddulais a’r
Hendy y noson honno. Aeth â milwyr gydag ef i ymguddio ger pont
Hendy. Cymerodd Capten Napier hanner dwsin o blismyn a thri ynad i Bontarddulais
o Abertawe. Rhuthrodd tri o’r terfysgwyr mwyaf blaengar at yr heddlu
gan danio’u gynnau, ond fe saethwyd eu ceffylau a gwasgarodd y terfysgwyr
mewn anhrefn. Cafod ‘Beca’ ei ddal ynghyd â chwech arall.
Yn naturiol ddigon dangoswyd cryn ddiddordeb fod un o arweinwyr y Beca
yn y ddalfa. John Hughes neu Jac Ty-isha fel ei gelwid, oedd y Beca a
daeth y terfysg yma yn un o helyntion pwysicaf y mudiad.
Apwyntiwyd comisiwn arbennig gan y Llywodraeth i roi’r
carcharorion hyn ar eu prawf a symudwyd yr achos i Gaerdydd am fod y teimladau
mor gryf yn Abertawe.
Cafodd y carcharorion gymorth a chyfarwyddyd ychwanegol
gan y Radical lleol a’r Siartydd Mr Hugh Williams, y cyfreithiwr
o Gaerfyrddin. Yn groes i ewyllys Hugh Williams plediodd Jac yn ddieuog
i’r cyhuddiadau yn ei erbyn, y cyntaf o fod yn gyfrifol am saethu
Captain Napier, Prif Gwnstabl Morgannwg, gyda’r bwriad o’i
lofruddio. Dyfarnwyd John Hughes yn euog, ond argymhellodd y rheithgor
ddangos trugaredd tuag ato o ystyried ei gymeriad ddilychwin. Er bod sawl
deiseb wedi’u hanfon ar ran Jac gan gynnwys un wrth ei fam a anfonwyd
i’r Frenhines Fictoria, ni ostyngwyd ei ddedfryd.
Talodd yn ddrud am ei ran pan ei dedfrydwyd i ugain mlynedd
o alltudiaeth yn Nhasmania.
Cyfarfodydd i drafod cwynion
Digwyddiad a dyfodd i fod yn fwy cyffredin yn ystod 1843,
oedd y cyfarfodydd a oedd yn cael eu cynnal gyda’r nos a byddai’n
gyfle i fynegu barn ynglyn â phroblemau cefn gwlad a chynnig gwahanol
ffyrdd o’u datrys. Roedd rhai o’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal
mewn pentrefi fel yr adroddwyd yn y Times. Un o’r cyfarfodydd mwyaf
a welwyd oedd ar Fynydd Sylen uwchben Cwm Gwendraeth ar 25ain o Awst 1843
ac un arall ar Fynydd Mawr, Llyn Llech Owain ar 13eg o fis Medi. Un o’r
areithwyr pwysicaf oedd Hugh Williams y cyfreithiwr o Gaerfyrddin a oedd
eisoes yn gefnogwr amlwg o Beca. Condemniodd y defnydd o drais, ac argymhellodd
y dylid anfon deiseb at y Frenhines.
Pwy Oedd Beca?
Bu swyddogaeth Hugh Williams yn hanes y Beca yn ddadleuol
erioed. Y farn boblogaidd amdano yw mai ef oedd ‘symbylydd ac arweinydd
dirgel’ y mudiad. Amddiffynnodd derfysgwyr Beca a ddaeth o flaen
yr Ynadon. Cynorthwyodd hefyd i amddiffyn y Siartwyr a gafodd eu dal yn
Llanidloes yn 1839. Roedd yn Siartydd brwd a fynychodd Gynhadledd 1838
fel cynrychiolydd Caerfyrddin. Ei frawd-yng-nghyfraith oedd Richard Cobden,
arweinydd y mudiad i ddileu y Deddfau Yd. Bu’n bresennol yn aml
yng nghyfarfodydd Beca, weithiau fel cadeirydd. Ym mhob un o’r cyfarfodydd
er ei fod yn deall cwynion y terfysgwyr roedd bob tro’n siarad yn
erbyn trais ac o blaid newid gwleidyddol a heddychlon. Honnodd mai ef
oedd un o’r rhai cyntaf i gymryd sylw o broblem y tollbyrth ym 1838.
Mewn llythyr gan y Cyrnol Love i’r Swyddfa Gartref
rhoddwyd y bai ar Hugh Williams am annog defnyddio’r ‘ceffyl
pren’ drwy honni nad oedd yn anghyfreithlon. Cred rhai mai traddodiad
y ceffyl pren oedd wrth wraidd mudiad Beca.
Cyfiawnder a charwyr Cyfiawnder ydym ni oll
Protest oedd ‘Beca’ yn erbyn sawl achos o
galedi a oedd wedi amharu ar drefn draddodiadol bywyd yng Ngorllewin Cymru.
Adwaith ydoedd i’r hyn a oedd yn cael ei ystyried yn anghyfiawnder,
gan ddilyn patrwm a osodwyd gan draddodiad y ‘ceffyl pren’.
Am gyfnod o leiaf roedd ‘Beca a’i merched’ yn rhyw fath
o ‘gyfiawnder’ naturiol hyd nes i’w gweithredoedd ddenu
yn gyntaf radicaliaid a oedd yn fygythiad peryglus i’r gymdeithas,
ac yn ail, sylw’r llywodraeth a oedd yn barod i gyfaddawdu a datrys
rhai o’r cwynion mwyaf difrifol. O ganlyniad, fe ddiflannodd Beca
gan aros yn atgof balch yn etifeddiaeth y Cymry.
|